Neidio i’r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Rydym yn newid ein enw i HelpwrArian

Cyn bo hir bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn dod yn HelpwrArian, y ffordd hawdd i gael help am ddim i’ch dewisiadau arian a phensiwn.

Arweiniad Ariannol Coronafeirws - Arweiniad dibynadwy a dolenni i gefnogaeth

Ewch i'n canolfan gymorth

Cynllunio cyllideb ar gyfer ymddeoliad

Gwyliwch y fideo byr hwn o’r newyddiadurwr ariannol Paul Lewis yn egluro sut i gyllidebu mewn ymddeoliad. Lawrlwythwch sgript y fideo

Os hoffech chi wybod faint o arian fydd gennych chi pan fyddwch chi’n ymddeol, mae creu cyllideb yn ffordd dda iawn o ddechrau.

  • Deallwch pam mae cyllidebu mewn ymddeoliad yn ddefnyddiol
  • Dysgwch sut i gyllidebu mewn ymddeoliad
  • Lluniwch gynllun cyllideb ar-lein neu ar bapur
Paratowch gyllideb ar-lein

neu lawrlwythwch y daflen waith ar gyllidebu

Pam ddylid creu cyllideb?

Bydd cyllideb yn dangos i chi faint o arian sydd gennych yn dod i mewn ac ar beth yr ydych yn ei wario. Mae’n ei gwneud hi’n haws creu’ch cynllun gwariant eich hun a fydd yn sicrhau y byddwch yn rheoli’ch arian yn ystod eich ymddeoliad.

Cyllidebu ar gyfer ymddeoliad

Wedi i chi gwblhau cyllideb a gwybod faint o arian fydd gennych chi i fyw arno, gallwch wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â’r math o fywyd yr hoffech chi ei fwynhau yn eich ymddeoliad.

Efallai y llwyddwch chi i gyfaddawdu er mwyn eich galluogi i ymddeol yn gynt neu wario rhagor ar eich diddordebau neu deithio.

Creu cyllideb ar-lein

Ewch ati ar unwaith gyda’n cynllunydd cyllideb ar-lein hawdd ei ddefnyddio a fydd yn eich tywys drwy’r broses gyllidebu.

Paratowch gyllideb ar-lein

Paratowch gyllideb ar bapur

Mae cyllidebu ar bapur yr un mor effeithiol â chyllidebu ar-lein. Lawrlwythwch ein cynllunydd cyllideb ar bapur i roi cychwyn arni nawr.

Lawrlwythwch y daflen waith ar gyllidebu