Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle

Mae’n gyfraith erbyn hyn y dylai’r rhan fwyaf o gyflogeion gael eu cofrestru ar gynllun pensiwn gweithle gan eu cyflogwr. Bydd y gyfrifiannell hon yn dangos faint fydd yn cael ei dalu i mewn i'ch pensiwn gennych chi a'ch cyflogwr.

1. Eich manylion

Rydych yn rhy ifanc i ymuno â phensiwn gweithle. Pan gyrhaeddwch 16 oed gallwch ddewis ymuno. Os gwnewch hynny, gallai eich cyflogwr wneud cyfraniadau hefyd yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill.

Ni fydd eich cyflogwr yn eich ymrestru'n awtomatig i mewn i bensiwn ond gallwch ddewis ymuno. Os ydych yn ennill mwy na'r lefel is o enillion cymwys, rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu hefyd.

Nid oes gennych hawl i gael eich ymrestru'n awtomatig mewn pensiwn gweithle. Mae llawer o'r buddion treth o gynilo i mewn i gynllun pensiwn yn stopio yn 75 oed.

Ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru yn awtomatig am gynllun pensiwn gweithle, ond gallwch ddewis ymuno. Os felly, ni fydd yn ofynnol i'ch cyflogwr wneud cyfraniadau.

Ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru yn awtomatig am gynllun pensiwn gweithle, ond gallwch ddewis ymuno. Os felly, bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniadau.

Sylwer: Mae eich enillion yn agos iawn at y trothwy lle nad oes raid i’ch cyflogwr gyfrannu at eich pensiwn os dewiswch gofrestru. Dylech wirio i gadarnhau a fydd eich cyflogwr yn cyfrannu neu beidio oherwydd mae’r trothwy hwn yn amrywio yn ddibynnol ar a ydych yn cael eich talu’n fisol, wythnosol neu bob 4 wythnos. Darllenwch fwy am y trothwyon cyflog ar gyfer pensiynau gweithle.

Sylwer: Mae eich enillion yn agos iawn at y trothwy cyflog cofrestru awtomatig. Dylech wirio gyda’ch cyflogwr i gadarnhau a ydych yn gymwys neu beidio i gael eich cofrestru’n awtomatig gan fod y trothwyon yn amrywio yn ddibynnol ar a ydych yn cael eich talu’n fisol, wythnosol neu bob 4 wythnos. Darllenwch fwy am y trothwyon cyflog ar gyfer pensiynau gweithle.

Dewiswch sut mae eich cyflogwr yn cyfrannu

Gall eich cyflogwr ddewis os yw am wneud cyfraniadau ar ran o'ch cyflog (a elwir yn enillion cymhwyso ) neu ar eich cyflog llawn. I gael gwybod pa un, bydd angen i chi wirio gyda’ch cyflogwr.

Ar eich lefel enillion, bydd rhaid i chi wneud cyfraniadau yn seiliedig ar eich cyflog llawn.